
|
TALENTAU GORAU CYMRU YN
NOSON GYMRAEG GYNTAF CANOLFAN MILENIWM CYMRU
Dewch i noson uniaith Gymraeg gyntaf yng Canolfan Mileniwm Cymru lle
bydd gwledd o dalentau gorau Cymru yn aros i’ch diddanu.
Sain, Cerdd a Sioe yw enw cyngerdd agoriadol Eisteddfod yr Urdd
eleni a gynhelir ar nos Sul, 29 Mai ym mhrif theatr Canolfan
Mileniwm Cymru.
Bydd rhai o aelodau'r Urdd yn ymuno hefo rhai o sêr mwyaf y theatr
a'r sgrîn fach, a chyn enillwyr rhai o brif gystadleuthau'r ŵyl yn
ymuno hefo cast Theatr Ieuenctid yr Urdd, mewn un llwyfaniad lliwgar
fydd yn croesawu'r ŵyl i'r brifddinas, a'r Eisteddfod ar ei newydd
wedd.
Dyma gyfle arbennig i weld enwau fel Aled Jones a Daniel Evans, y
ddau wedi bwrw eu prentisiaeth ar lwyfannau’r Urdd, yn ymuno â chast
o dros 300 o bobl ifanc i ganu detholiad o ganeuon mwyaf poblogaidd
o’r sioeau cerdd – Cabaret, Les Miserables, Joseff a’i Gôt Amryliw,
Jiwdas, Nia Ben Aur a Chicago ac enwi dim ond rhai.
Bydd rhai o gyn-ennillwyr yr Urdd hefyd yn cymryd rhan flaenllaw yn
y gyngerdd gan gynnwys Huw Euron, sydd wedi ennill BAFTA yn
ddiweddar, Mirain Haf, Catrin Evans, Catherine Ayres, Aled Pedrick,
Tara Bethan, Rhian Mair Lewis a chorau CF1, Glanaethwy, Ysgol
Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Melin Gruffydd gan addo noson arbennig.
Meddai Meirion Davies, Comisiynydd Adloniant a Digwyddiadau S4C:
"Mae apêl heintus caneuon o'r sioeau cerdd a’u poblogrwydd ymysg
pobl ifanc yn cael ei wireddu yn y noson fyrlymus hon. Pleser fydd
gwylio dros 300 o bobl ifanc dalentog o Gymru gyfan yn dathlu'r
arddull yma o berfformio. Dyma'r noson uniaith Gymraeg gyntaf un o
Ganolfan Mileniwm Cymru ac mae S4C yn falch iawn o fod yn darlledu'r
perfformiad."
Ychwanegodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a’r Celfyddydau
Urdd Gobaith Cymru:
“Pa well ffordd i agor ein Prifwyl na sicrhau bod ein hieuenctid yn
cael llwyfannu ar brif lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru, gan arddangos
eu talentau fydd yn wledd i’r llygad ac i’r glust. Dewch i brofi
gwefr y noson arbennig hon yn un o ganolfannau perfformio mwyaf
cyffrous y byd. Ymhyfrydwn ein bod yn medru cynnig cyfleoedd
cyffrous o’r safon uchaf i bobl ifanc Cymru.”
MANYLION TOCYNNAU
Er mwyn archebu tocynnau i’r cyngherddau a’r cystadlaethau gyda’r
nos ewch i safle gwe Canolfan Mileniwm Cymru www.wmc.org.uk neu
ffoniwch y swyddfa docynnau ar 0870 040 2000. Ymwelwch hefyd a
www.urdd.org
Bore Sul, 29 Mai, 10:00 y.b: Gwasanaeth Sul yng Nghapel Minny Street
Caerdydd dan ofal y Parchedig Owain Llŷr a phobl ifanc Capeli ardal
Caerdydd. Casgliad tuag at ymgyrch ‘Agor Drysau’.
Nos Sul, 29 Mai: 7:00 y.h: Cyngerdd agoriadol mewn cydweithrediad ag
S4C. (£20/£15/ £10)
Nos Lun, 30 Mai a nos Iau 2 Meh. 6:30 y.h: Cystadlaethau Cân Actol
dan 12 oed a dan 15. (£5 / £3)
Nos Fawrth a Mercher: Sioe Gerdd Les Misérables. Noder bod y
tocynnau i gyd wedi eu gwerthu.
Nos Fawrth – Iau, 31 Mai – 2 Meh. 6:30 y.h: Perfformiadau Theatrig
yn Theatr Weston, CMC. (£3)
Nos Wener, 3 Meh. 7:30y.h: Cystadlaethau Band / Cerddorfa o dan 25
oed (£5 / £3)
Nos Sadwrn, 4 Meh.: Cystadlaethau yr Aelwydydd rhwng 2 o’r gloch ac
8 o’r gloch. Mynediad drwy docyn maes.
Nos Sul, 5 Meh. 7:00 y.h: Cymanfa Ganu yng Nglanfa CMC. Mynediad
trwy raglen (£3)
Am fwy o fanylion cysyllter â: Manon Wyn, Swyddog Marchnata a
Chysylltiadau Cyhoeddus, Swyddfa’r Urdd,
Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, 01970 613115,
manonwyn@urdd.org
View in English
|